Amdanom ni

Mae Harcus Parker yn gwmni ymgyfreitha blaenllaw sy’n arbenigo mewn cyflwyno ac amddiffyn hawliadau cymhleth, yn aml yn gweithredu ar ran grwpiau mawr o hawlwyr. Mae ein hymgyrchoedd presennol yn cynnwys:

Tesco Equal Pay

Er gwaethaf 40 mlynedd o ddeddfwriaeth cyflog cyfartal, mae cred reddfol o hyd bod yr hyn a elwir fel “gwaith i fenywod” yn werth llai na gwaith dynion. Rydym yn gweithredu ar ran miloedd o staff archfarchnadoedd yn eu hawliad yn erbyn Tesco am gyflog cyfartal.

RHAGOR O WYBODAETH

Woodford Litigation

Rydym yn gweithredu ar ran buddsoddwyr yn eu hawliad yn erbyn Link Fund Solutions am eu methiant i reoli Woodford Equity Income Fund yn ddarbodus. Os ydych yn dal neu wedi dal cyfranddaliadau yn y LF Equity Income Fund (yr LF Woodford Equity Income Fund gynt) naill ai’n uniongyrchol, drwy gyfryngwr, neu fel rhan o’ch Pensiwn Buddsoddi Personol, gallech fod â hawl i hawlio iawndal.

RHAGOR O WYBODAETH

Ymgyfreitha ar ran Carcharorion Morgais

Rydym yn gweithredu ar ran miloedd o berchnogion tai sydd â morgeisi gyda benthycwyr nad ydynt yn cynnig cynnyrch morgeisi cystadleuol ac sydd wedi’u dal yn talu cyfraddau llog uchel ar eu morgeisi. Os byddwn yn llwyddiannus, byddai gan fenthycwyr hawl i iawndal am y swm gormodol o log y maent wedi’i dalu.

RHAGOR O WYBODAETH

Whistletree

Rydym yn gweithredu ar ran cwsmeriaid presennol a chyn gwsmeriaid Chicktree y mae cyfraddau llog uchel wedi’u codi arnynt, sy’n groes i delerau ac amodau eu cytundebau morgais.

RHAGOR O WYBODAETH

Hawliad Grŵp o Fyfyrwyr

Rydym yn gweithredu ar ran miloedd o fyfyrwyr a chyn-fyfyrwyr mewn hawliadau iawndal yn erbyn prifysgolion Prydain. Mae eu hawliad yn ymwneud â’r ffaith bod ffioedd llawn wedi cael eu codi arnynt ar gyfer hyfforddiant ar-lein neu wedi’i ganslo yn ystod y pandemig a streiciau gan staff.

RHAGOR O WYBODAETH

Hawliad Cerdyn Masnachol

Rydym yn lansio achos ar y cyd yn erbyn Mastercard a Visa ar ran busnesau sy’n derbyn taliadau gan gardiau corfforaethol y DU, a chardiau credyd a debyd gan ymwelwyr tramor. Rydym yn dweud bod ffioedd trafodion a bennir gan Mastercard a Visa yn anghyfreithlon ac y dylid digolledu busnesau.

RHAGOR O WYBODAETH

Hawliad Home REIT

Rydym yn mynd ar drywydd hawliadau ar ran buddsoddwyr sydd wedi dioddef colledion ar gyfranddaliadau y maent wedi’u dal neu’n parhau i’w dal yn Home REIT.

RHAGOR O WYBODAETH

Closet Trackers Litigation

Rydym yn ymchwilio i hawliadau ar ran buddsoddwyr sydd wedi talu gormod am fuddsoddi mewn cronfeydd “closet tracker” honedig.

RHAGOR O WYBODAETH

Dyma’r prif gysylltiadau yn nhîm ymgyfreitha’r grŵp broceriaeth ynni:

Damon Parker Uwch Bartner
Matthew Patching Uwch Aelod Cyswllt
Daniel Kerrigan Uwch Aelod Cyswllt
Olivia Selley Aelod Cyswllt
Jennifer Cassidy Cyfarwyddwr Gweithrediadau Cyfreithiol

Ein helusennau

Mae Harcus Parker yn cefnogi’r elusennau a nodir isod, lle mae’r argyfwng costau byw yn cael effaith andwyol ar eu hamcanion. Byddwn yn cyfrannu cyfran o’n ffi i’r elusennau hyn. Ni fydd hyn yn effeithio ar y swm rydych chi’n ei dderbyn oherwydd bydd y cyfraniad yn cael ei dalu’n llwyr gan gyfran Harcus Parker o’r elw pe bai’r hawliadau’n llwyddo.

MUMMY’S STAR

Elusen genedlaethol sy’n cefnogi menywod (a’u teuluoedd) sydd wedi cael diagnosis o ganser yn ystod neu’n fuan ar ôl beichiogrwydd. Mae eu gwaith yn cynnwys rhwydweithiau cefnogi, hyfforddiant i feddygon a bydwragedd, grantiau a mwy.

LIBERTY CHOIR

Elusen fach sy’n cynnal rhaglen gorawl broffesiynol mewn carchardai yn y DU. Nid yn unig y mae hyn yn darparu gweithgaredd gwerth chweil ac iachus i garcharorion, ond mae’r rhwydwaith cefnogi a gynigir ar ôl eu rhyddhau yn gwneud gwahaniaeth.

WIDOWED AND YOUNG (WAY)

WAY yw’r unig elusen sy’n darparu cymorth i bobl 50 oed ac iau yn dilyn marwolaeth eu partner. Mae’n cynnig cymorth gan gymheiriaid sy’n cael ei drefnu gan wirfoddolwyr sydd wedi profi profedigaeth.

DRAVET SYNDROME UK

Darparu cefnogaeth i ddioddefwyr a phawb y mae Syndrom Dravet yn effeithio arnynt. Enghraifft berffaith o’r diffiniad “elusen fach” – “un na fyddech yn gwybod am ei bodolaeth hyd nes y bydd ei hangen arnoch”.

LIGHTS UP!

Elusen yn y DU sydd â model
i ariannu grwpiau theatrig lleol drwy ddosbarthu tocynnau i bobl na fyddent fel arall byth yn cael cyfle i fynychu perfformiadau o’r fath.

THE LOSS FOUNDATION

Elusen sy’n darparu cymorth aml-sianel i bobl yn y DU sydd wedi colli anwylyd i ganser neu Covid.

SOMETHING TO LOOK FORWARD TO

Elusen yn y DU sy’n darparu diwrnodau/gwyliau/tripiau arbennig i gleifion, teuluoedd a gofalwyr y mae canser yn effeithio arnynt. Mae’r model yn un diddorol gan fod pob £1 sy’n cael ei rhoi yn arwain at 3x gwerth y buddion sy’n cael eu cynnig.

STRONGMEN

Elusen cymorth profedigaeth i ddynion. Ein nod yw cefnogi dynion ar ôl profedigaeth. Gall galar achosi cyflyrau iechyd corfforol ac emosiynol difrifol sy’n aml yn cael eu hanwybyddu, yn enwedig ymhlith dynion. Mae ein gwasanaethau yn seiliedig ar ddysgu gan gyfoedion sydd wedi profi colled o’r fath.

Muscular Dystrophy UK
Support Through Court

Nod Support Through Court yw sicrhau bod pobl yn gallu cynrychioli eu hunain gydag urddas a’u bod yn gallu llywio drwy broses gymhleth y llys er mwyn cael y gwrandawiad tecaf posibl. Hyd yma, mae Support Through Court wedi cefnogi degau o filoedd o bobl drwy broses y llys.” Testun Elusennol ar gyfer Support Through Court

Claim Calculator

Enter your estimated annual energy usage, commission and length of contract below to see how much you could claim.