Am beth mae’r honiad?

Mae llawer o fusnesau’n dewis cael cyfarwyddo broceriaid ynni i drefnu eu contractau nwy a thrydan.

Mae broceriaid yn aml yn anfon negeseuon e-bost neu’n ffonio darpar gleientiaid heb wahoddiad ac yn addo bargeinion rhatach. Ond, er bod llawer o froceriaid yn agored ac yn onest ynghylch sut y cânt eu talu, mae llawer o rai eraill yn cuddio’r ffaith eu bod yn cael comisiwn gan y cwmni ynni.

Mae OFGEM, y rheoleiddiwr ynni, wedi bod yn rhybuddio am yr hyn mae’n ei alw’n Cyflwynwyr Trydydd Parti ers rhai blynyddoedd. Yn anffodus, nid yw Cyflwynwyr Trydydd Parti yn dod o dan bwerau rheoleiddio OFGEM. Mae hyn yn golygu nad oes yn rhaid i froceriaid sy’n delio â busnesau (gan gynnwys elusennau, ysgolion, clybiau a grwpiau ffydd) lynu wrth unrhyw god ymarfer neu safonau ymddygiad.

Credwn y gallai’r ymarfer fod wedi dechrau cyn belled yn ôl â 2003.

Mae ymchwil yn dangos bod broceriaid ynni yn y DU yn cael amcangyfrif o £2.25 biliwn mewn taliadau comisiwn gan gwmnïau ynni bob blwyddyn.

Fel mater o gyfraith, mae gan eich brocer ddyletswyddau llym, sy’n cynnwys dyletswyddau i ymarfer sgiliau a gofal rhesymol, i osgoi gwrthdaro rhwng buddiannau, ac i beidio â gwneud elw cyfrinachol. Maent i fod i weithredu ar eich rhan, nid fel gwerthwr y cwmni ynni.

Os yw eich brocer yn cael comisiwn gan gyflenwr ynni, mae’n rhaid iddo wneud yn glir ei fod yn derbyn y taliad hwn, rhoi gwybod i chi faint yn union ydyw, a gofyn am eich caniatâd i’r swm hwnnw gael ei dalu iddo. Os na fyddant yn gwneud hynny, gall fod yn ofynnol i’r brocer dalu ei gomisiwn yn ôl i chi, yn yr un modd â’r cyflenwr ynni sydd, dan gyfraith gwlad, wedi talu ‘llwgrwobr’ i’r brocer.

Gall lefel y datgeliad a wneir gan froceriaid diegwyddor amrywio. Efallai y byddant yn dweud eu bod yn cael taliad gan y cwmni ynni ond yn penderfynu peidio â darparu rhagor o fanylion, neu mae’n bosibl y byddant awgrymu nad ydynt yn codi unrhyw ffioedd. Mae rhai’n awgrymu eu bod yn chwilio’r farchnad am y fargen orau bosibl ond, mewn gwirionedd, maent yn llawn cymhelliant i ddod o hyd i’r cyflenwr ynni sy’n talu’r comisiwn uchaf iddynt.

Mae’r wybodaeth sydd gennym yn awgrymu y gall taliadau comisiwn fod mor uchel â 10c y kWh. Yn fwy cyffredin, telir rhwng 1 a 3c.

Rydym hefyd wedi gweld tystiolaeth, oherwydd bod broceriaid yn cael eu cymell gan gyflenwyr ynni i weithredu er eu budd eu hunain, nad yw’r cwsmer bob amser yn cael ei arwain at y pris rhataf sydd ar gael yn y farchnad. Pan fydd hyn wedi digwydd, byddwn yn ceisio adennill iawndal sy’n cyfateb i’r gwahaniaeth rhwng y pris a drafodwyd a’r pris y byddai brocer sy’n gweithredu er budd gorau ei gleient wedi’i gael.

MAE’R WYBODAETH Y DYLECH FOD WEDI’I CHAEL YN CYNNWYS:

  • Beth yn union oedd y comisiwn?
  • A wnaeth y brocer ymchwilio i’r farchnad er mwyn canfod beth sydd orau i chi, neu a oeddent wedi’u clymu wrth gyflenwyr penodol?
  • A oedd hyd y contract a awgrymwyd ganddynt yn gysylltiedig â’u comisiwn?
  • Oedden nhw’n arbed arian i chi o gwbl?
  • Fyddech chi wedi bod yn well eich byd yn aros gyda’r contract oedd gennych chi’n barod?
  • A ddwedwyd wrthych fod cwmnïau ynni, fel arfer, yn talu comisiwn y brocer ac yn adennill y gost honno drwy gynyddu cost uned ynni’r cwsmeriaid, a’r effaith yw bod cost comisiwn y brocer wedi’i chynnwys yn y bil i gwsmeriaid?

Dim ond os ydych chi’n gwybod yr ateb i’r holl gwestiynau hyn y gellir dweud eich bod wedi cael cyngor priodol.

Fel y dengys ein hastudiaethau achos, gall yr hawliadau fod yn rhai sylweddol iawn. Hanfod y broblem yw bod y rhain yn daliadau comisiwn cudd, felly mae’n bosibl eich bod wedi meddwl eich bod wedi cael bargen dda gyda brocer dibynadwy.

Oes gen i hawliad?

SUT ALLAF I GAEL RHAGOR O WYBODAETH?

Os oes comisiwn wedi’i dalu a’ch bod heb roi caniatâd cwbl ddeallus, mae’n bosibl y gallwch wneud hawliad. Mae’n nodwedd bwysig yn yr achos nad oes yr un busnes na sefydliad sydd wedi talu’r comisiwn cudd yn gwybod bod y llwgrwobr yn bodoli nes bydd yn gwneud ymholiadau.

Er mwyn cael gwybod a ydych chi’n gymwys, cwblhewch y broses gofrestru yma. Os mai canlyniad yr ymholiad yw bod taliadau comisiwn wedi’u codi, byddwn yn gweithredu ar eich rhan i geisio eu hadennill.

Dyma’r wybodaeth bwysig y bydd ei hangen arnom:

1) Manylion eich brocer neu froceriaid dros y 12 mlynedd diwethaf;

2) Sut gwnaeth eich brocer gysylltu â chi;

3) Os ydych yn gallu dweud yn onest eich bod naill ai heb gael gwybod bod eich brocer yn cael unrhyw gomisiwn o gwbl, neu eich bod heb gael manylion llawn am y comisiwn;

4) copïau o’ch contractau neu’ch anfonebau.

YMUNO Â’R HAWLIAD

Yn erbyn pwy mae’r hawliad?

Gallwch hawlio yn erbyn eich brocer neu eich cyflenwr ynni. Fodd bynnag, mae gan y cwmni ynni ddyletswydd i sicrhau bod cyfraddau a strwythur y comisiwn yn cael eu hesbonio. Os nad ydynt, efallai y byddant yn atebol i chi.

Dyma’r prif ddiffynyddion rydym yn ymchwilio iddynt:

Ein Cefnogwyr

Claim Calculator

Enter your estimated annual energy usage, commission and length of contract below to see how much you could claim.