SYLWER BOD Y DOGFENNAU COFRESTRU YN SAESNEG.
Cofiwch gofrestru dim ond os ydych chi’n teimlo’n gyfforddus eich bod yn deall yn llawn oblygiadau’r hyn rydych chi’n cytuno iddo, ac yn benodol gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y Cwestiynau Cyffredin. Os nad ydych yn deall, peidiwch â llofnodi, neu gofynnwch am gyngor ynghylch y goblygiadau. Yn amodol ar hynny, rydym yn cadarnhau mai effaith gyffredinol y dogfennau yw’r canlynol: 1) bod hwn yn drefniant dim ennill, dim ffi; 2) byddwn yn codi 33% a TAW ar yr iawndal neu’r setliad a gewch; 3) byddwn yn trefnu yswiriant ar gyfer y perygl o golli.
Yn y lle cyntaf, gofynnwn i chi lofnodi llythyr awdurdodi. Byddwch yn ein cyfarwyddo i ganfod a yw eich cyflenwyr ynni wedi bod yn talu comisiynau i froceriaid, ac os felly, faint; ac os ydynt, byddwn yn cymryd camau i hawlio iawndal ar eich rhan, ar yr amod nad oeddech yn ymwybodol o daliad y comisiynau.
Bydd y dogfennau a ddefnyddir i gyflwyno’r hawliad, gan gynnwys Manylion yr Hawliad, ac atodlenni gwybodaeth, hefyd yn Saesneg. Bydd angen i chi eu deall ac i chi allu datgan yn onest bod cynnwys Manylion yr Hawliad ac atodlenni gwybodaeth yn wir, yn enwedig mewn perthynas â’ch gwybodaeth am dalu am gomisiynau.]