A yw taliadau comisiwn cudd am ynni yn effeithio ar eich busnes?

Mae’n bosibl bod degau o filoedd o bunnoedd o iawndal gan gwmnïau ynni yn ddyledus i filiynau o fusnesau a sefydliadau ledled y DU.

Os yw eich busnes, elusen, ysgol, clwb, neu grŵp ffydd wedi defnyddio brocer ynni i negodi ei fargeinion nwy neu drydan, ac nad oedd wedi bod yn gwbl dryloyw â chi ynglŷn â’r comisiwn y bydd yn ei gael, yna mae’n bosibl eich bod yn gymwys i ddwyn hawliad.

Mae taliadau comisiwn cudd wedi bod yn cael eu talu ar raddfa ddiwydiannol i froceriaid anrheoledig, sydd wedi arwain at chwyddiant ym miliau ynni cwsmeriaid. Mae methiant cwmnïau ynni i ddweud wrth eu cwsmeriaid eu bod wedi talu’r ‘llwgrwobrwyon’ hyn i’w broceriaid yn golygu y gall eu cwsmeriaid hawlio’r arian hwn yn ôl.

Mae prisiau ynni’n uwch nag erioed. Nid yw busnesau a sefydliadau trydydd sector erioed wedi bod dan gymaint o bwysau.

Os ydych chi’n talu gormod ar hyn o bryd, neu os ydych chi wedi bod yn talu gormod yn y gorffennol, mae ond yn deg eich bod yn cael iawndal.

CYNHYRCHYDD BWYD

Ein Cefnogwyr

Claim Calculator

Enter your estimated annual energy usage, commission and length of contract below to see how much you could claim.