Rydym yn ceisio cael gwared â’r holl risgiau sy’n rhan annatod o’r broses ymgyfreitha, ond mae rhai risgiau, waeth pa mor fach, na ellir eu dileu yn llwyr. Rydym yn eu rhestru isod, gydag esboniad o’r hyn a wnawn i’w lliniaru a pham ein bod yn unol â hynny, yn fodlon cynghori y bydd eich cyfranogiad yn yr ymgyfreitha, yn ymarferol, yn ddi-risg.
Risg 1: gall yr yswiriwr wrthod neu geisio tynnu yswiriant yn ôl, naill ai ar ôl i’r achos ddod i ben yn aflwyddiannus, neu tra bo’r achos yn parhau.
Ein cyfrifoldeb ni yw sicrhau bod yr yswirwyr yn cael gwybodaeth lawn am bob agwedd ar yr achos fel nad yw’n agored iddynt wrthod anrhydeddu hawliad os bydd yr achos yn aflwyddiannus. Rydym wedi buddsoddi yn yr achos, a byddwn yr un mor awyddus â chi i sicrhau bod yr yswirwyr yn cael yr holl wybodaeth ac nad oes ganddynt unrhyw reswm dros wrthod yswiriant.
Risg 2: yr yswiriwr yn mynd i’r wal
Mae posibilrwydd y gall yr yswiriwr fynd i’r wal a methu â thalu. Nid oes dim y gallwn ei wneud ynghylch y risg hon, ar wahân i geisio cael yswiriant gan yswirwyr gyda sgôr digonol fyddai’n rhoi cysur i ni y byddant yn gallu talu. Rydym yn lliniaru’r risg drwy gael gafael ar yswiriant drwy froceriaid yswiriant arbenigol sy’n cynghori ar ansawdd y warchodaeth.
Risg 3: y grŵp yn methu â denu digon o hawlwyr
Mae risg ddamcaniaethol arall hefyd, sy’n annhebygol iawn o ddigwydd yn un o’r hawliadau hyn: sef bod yr achos yn un llwyddiannus ond bod unrhyw adferiad ar gyfer yr hawlwyr yn gyfyngedig.
Mae telerau’r DBA yn golygu na allwn gymryd mwy na 50% o unrhyw iawndal a gewch, ond os na fydd digon o hawlwyr yn ein cyfarwyddo, gan wneud yr achos yn anymarferol yn economaidd, efallai y bydd yn rhaid i ni derfynu ein hymgysylltiad â chi. Mae hyn yn annhebygol iawn, a byddem yn ymgynghori â’r Pwyllgor cyn gwneud hynny er mwyn sicrhau y gallai’r grŵp barhau i gael ei gynrychioli’n ddigonol, os oes modd.
Mae eich hawliad chi’n llwyddo ond mae hawliad hawlwyr eraill yn methu
Bydd yr yswiriant yn cael ei gyfuno, sy’n golygi mai dim ond os bydd hawliadau’r holl Hawlwyr yn methu y bydd yn ymateb. Os bydd rhai hawlwyr yn llwyddo ac eraill yn methu, byddant yn talu dim ond os na fydd modd talu’r costau i’r diffynyddion gyda hawliadau aflwyddiannus o’r symiau a enillwyd ar gyfer yr hawlwyr llwyddiannus. Mae hyn yn annhebygol o gael effaith sylweddol ar unrhyw hawlwyr llwyddiannus.